Habit Tea Rooms

Llandudno

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.

Caernarfon_castle_interior.jpg

Tyrau crwn sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thwr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd mae’r cerrig wedi’u trefnu’n ofalus mewn bandiau lliw.

carnarfon castle.jpg

Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfa’r dwr a mynediad hawdd i’r mÔr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward.

caernarfon 2.jpg

Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma.

Castell Caernarfon Statistics: 75 click throughs, 1966 views since start of 2024

Attraction in Caernarfon Gwynedd

Habit Tea Rooms Llandudno Conwy

Powered by Web4-u | Wales Tourist Information